
Os byddwch angen gwybodaeth bellach wrth gynllunio gwyliau neu ar ôl i chi gyrraedd yma, cysylltwch â’r Ganolfan Groeso neu galwch i mewn yno. Mae’r staff yn wybodus ac yn gyfeillgar ac mi wnânt bopeth y gallant i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad neu i wneud y defnydd gorau o’ch arhosiad. Mae ein canolfan ni ym Mhentref y Plant ar y promenâd ac rydym yn agored saith diwrnod o’r wythnos gydol tymor yr haf.
Pasg hyd fis Hydref: Bob Dydd, 9.30 am – 4.30pm
Mis Hydref hyd y Pasg: Llun i Gwener, 9.30 am – 4.30pm
Wedi cau ddydd Nadolig, Gwˆyl San Steffan a dydd Calan.
Mae gennym ni ddewis cynhwysfawr o lefydd i aros, ar gael yn ardal y Rhyl a Phrestatyn, am brisiau i siwtio poced pawb, o lety Gwely a Brecwast a Gwestai Bychain hyd at Westai Mawr tair seren, a hefyd parciau gwyliau a safleoedd gwersylla a charafanau.
Mae Gwasanaeth Llety'r Ganolfan Groeso’n cynnig manylion o beth sydd ar gael, dros y ffôn neu trwy e-bost; rydym hefyd yn gallu bwcio llety i chi os byddwch yn yr ardal, dewch draw i’r Ganolfan Groeso.
Wnewch chi ddim mynd ar goll yn y Rhyl a Phrestatyn, mae gennym ni ddewis da o fapiau OS a llawer o lyfrau diddordeb lleol ar gerdded, beicio a phethau i’w gwneud.
Os ydych yn chwilio am atyniad i ymweld ag ef neu eisiau gwybod beth sy’n digwydd, mae gennym stoc gynhwysfawr o daflenni atyniadau ar gyfer yr ardal leol a rhanbarthol, a manylion o ddigwyddiadau yn y Rhyl a Phrestatyn a’r ardal leol.
Rydym yn gallu’ch helpu gyda:
Y Pentref
Rhodfa’r Gorllewin
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 1HZ
Ffôn: 01745 344515, 01745 355068
Ffacs: 01745 342255
E bost: rhyl.tic@denbighshire.gov.uk