Darganfod Sir Ddinbych

Sir Ddinbych, Cefn Gwlad ac Arfordir – mae popeth ar eich stepen drws

Mae Sir Ddinbych yng Ngogledd-ddwyrain Cymru’n cynnig nifer rhyfeddol o brofiadau mewn ardal mor gryno a hawdd ei chyrraedd. Cefn gwlad trawiadol,  trefi marchnad prysur, dwy o’r trefi gwyliau mwyaf adnabyddus ym Mhrydain a chanrifoedd lawer o dreftadaeth gyfoethog yn cyfuno i wneud Sir Ddinbych yn lle gwahanol i fynd iddi. 

Pan fyddwch yn ymweld â Sir Ddinbych, gallwch ddisgwyl llawer o weithgareddau dan do fel parciau dŵr, canolfannau crefft, carchar cyfareddol Rhuthun, a chestyll godidog lle gallwch gerdded ar furiau’r dref neu fwynhau’r golygfeydd trawiadol. Os ydych chi’n hoff o’r awyr agored, mae Sir Ddinbych yn cynnig teithiau cerdded ffantastig i bob lefel o allu, teithiau ar gwch ar  gamlas a gweithgareddau i’r teulu cyfan. Neu gallwch ddefnyddio’r traethau hyfryd, lle gallwch dreulio’r diwrnod yn torheulo, mwynhau chwaraeon dŵr neu hyd yn oed gael reid ar gefn mul.

Am y newyddion diweddaraf un ac i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Sir Ddinbych, a dewis eang o lefydd i aros, o wely a brecwast i westai gwledig, ewch i’n gwefan. Yno mae’r holl wybodaeth rydych ei hangen, yn cynnwys y manylion cyswllt ar gyfer y Canolfannau Croeso, sy’n cynnig cyngor cyfeillgar.